Cofnodion
Cynhaliwyd cyfarfod or Cyngor ar 14eg o Fedi am 7.30 or gloch.
Yn bresennol oedd Einion Edwards, Dyfan Jones, Ffuon Williams, Menai Hughes, Maria Roberts, Prys Ellis, Kay Murphy a Cyngh Gwennol Ellis, a Llio Morris (cadeirydd)
Darllenwyd y cofnodion blaenorol ac fe’u harwyddwyd fel rhai cywir.
Datgan diddordeb ir AGENDA - Neb
Gohebiaeth
1. Llew Gwyn – cafwyd llythyr yn gofyn am gyfraniad tuag at gost y Tan Gwyllt, - pasiwyd i gyfrannu £150.00
2. Cronfa Effaith Balchder Bro Conwy – llythyr yn hysbysu bod cais wedi ei gymeradwyo y swm a benodwyd £60,000.
3. Dwr Cymru – anfoneb £22.62 wedi ei dalu DD
4. Archwilio Cymru - anfoneb am waith Awdit Llawn 24/25 £1,175.35 pasiwyd iw dalu.
5. Cyngor B sirol Conwy - Precept £5,000 (ail)
6. Ffioedd Claddu y diweddar Catherine E Roberts = £800.00 a Myfanwy Davies £400.00
7. Orddu Energy Park - llogi Yst y Plwyf = £20.00
8. Scottish Power -anfoneb £26.32 wedi ei dalu DD
9. Plus Net - anfoneb =£26.99
10. Emyr Mortimer – llogi yst y Plwyf = £250.00 (Ebrill, Mai a Mehefin)
Unrhyw fater arall
11. Toiledau - Gobeithio bydd y trosglwyddo yn digwydd yn y dyfodol agos.
12. Plannu blodau yn y potiau o amgylch y pentre
13. Gwrych Tyn Rhyd – cafwyd cwyn gan berchnogion drws nesaf am gyflwr y gwrych a oedd wedi tyfu, gofyn i Hadyn ei dorri.
14. LLyfrgell – cafwyd ymateb bod siec ddim wedi cyrraedd ei thaith ar ol y cyfarfod diwethaf felly y clerc i stopio y siec a gwneud un arall.
15. Ty Architecture – cafwyd anfoneb i wneud gwaith cynllunio a gwaith tendro toiledau pan ddaw y trosglwyddo drosodd o Sir Gonwy =£6,660.00 (arian grant Cadwyn Clwyd fferm wynt Brenig) pasiwyd iw dalu.
16. Gor Yrru drwy bentrerf Glasfryn – cafwyd pryder am y gor yrru ysgrifennu at Elfed Williams i datgan y pryder,
17. Cyngor Sir Conwy - cysyllltu i adael iddynt wybod am arwydd Cerrig y Drudion sydd wedi disgyn wrth yr ysgol.
18. Unllais Cymru - pasiwyd i gysylltu efo nhw i ddatgan ein barn am y ffioedd uchel a gafwyd gan yr Awdit Cymru a gofyn y cwestiwn os oes angen cael dau awdit sef mewnnol ac yr un Cymru wedyn.
19. Adroddiad Cyngh Gwennol Ellis – trafodwyd y pryder am or yrru drwy’r pentref Glasfryn-clerc i ysgrifennu at Elfed Williams Aelod Seneddol.
20. Gor yrru drwy’r pentref - dywedodd bod y cerbyd Go Safe wedi bod yn y pentref er mwyn arafu traffic drwy’r pentref.
Dywedodd ei bod wedi cael cais i gael plannu Cenin Pedr o amgylch trofa A5 wrth y domen halen clerc i holi am grant iw prynnu.
Parc Chwarae – datgan pryder am bobl ifanc yn casglu yn y Parc Cae Llwyd noson sioe Cerrig- meddwel bod angen gwneud rhywbeth gan bod y cae yn berchen ir Cyngor Bro a bod cymaint o bobl ifanc wedi ymgasglu i yfed yn y Parc a gadael ysbwriel a creu swn – efallai fuasan syniad i gael cyfarfod a aelodau o Sioe Cerrig, aelodau or Llew Gwyn ynghyd ar Cyngor Bro i weld beth allwn i wneud i ddatrus y broblem – clerc i gysylltu ar ysgrifennydd y Sioe i holi os oedd posib ei gynnwys yn ei cyfafod blynyddol.