Cyngor Cymuned Cerrigydrudion

Amdanon Ni

Mae 10 o aelodau ar y Cyngor yn cynrychioli ardaloedd Cerrig-y-Drudion, Glasfryn, Cefn Brith, Pentrellyncymer a Chwmpenanner, gyda 600 ar y gofrestr etholwyr. Cynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn yr Ystafell Blwyf yn arferol pob 5 wythnos.

O fewn dalgylch Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sydd yn gyfrifol am wasanaethau casglu ysbwriel, gwasanaethau cymdeithasol , materion ffyrdd a.y.b. Cartrefi Conwy sydd â chyfrifoldeb am y gwasanaethau tai. Mae’r gwasanaeth llyfrgell ar hyn o bryd ar fin cael ei drosglwyddo i ofal Grŵp Cefnogol Llyfrgell Cerrig-y-Dudion.

Gellir cysylltu gyda’r awdurdodau fel a ganlyn Cyngor Bwrdeistref Conwy, Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy LL32 8DU Rhif ffôn 01492576300

Cartrefi Conwy, Morfa Gele, Cae Eithin, Abergele LL22 8LJ Rhif ffôn 03001240040