Cyngor Cymuned Cerrigydrudion

Adnoddau

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am adnoddau lleol sef yr Ystafell Blwyf, Cae Chwarae Cae Llwyd Gof Golofn a’r Fynwent Newydd.

Yr Ystafell Blwyf

Adeiladwyd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er mae bychan yw’r adeilad. Mae’n cynnwys dwy ystafell sef cegin, ystafell cyfarfodydd ynghyd a thoiled yn cynnwys cyfleusterau anabl.

Costau Llogi

Sesiwn Bore £20, sesiwn prynhawn £20, sesiwn gyda'r nos £20.

I logi cysylltwch â’r clerc, Carol Humphreys rhif ffôn 01490420270

Cyfeiriad: Parish Room, Cerrigydrudion, Conwy, LL21 9SR

e-bost: info@cerrigydrudion.org.uk


Cae Llwyd

Lleolir y cae ym mhen isa’r pentref yn ymyl priffordd yr A5. Yn berchen i’r Cyngor Cymuned gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gofalu am y gwaith cynhaliaeth, sef torri gwair a.y.b.


Y Gof Golofn

Mae’r gof golofn i’w gweld o flaen banc HSBC ym mhen ucha’r llan gyda rhestr o enwau'r rhai a gollwyd o’r gymuned yn y ddau ryfel byd. Cynhelir gwasanaeth coffâd ar Sul y Cofio ym mis Tachwedd pob blwyddyn.


Y Fynwent Newydd

Mae cyfrifoldeb y Cyngor hefyd yn cynnwys gofalu am y Fynwent Newydd. Lleolir y fynwent tua ¼ milltir o’r pentref ar fin yr A5 i gyfeiriad Betws-y-Coed. Gofynnir am y taliadau canlynol yn ymwneud ac angladdau a.y.b.


Nodir os gwelwch yn dda nad yw’r Cyngor yn trefnu angladdau. Am wybodaeth pellach, cysylltwch â’r clerc Carol Humphries rhif ffôn 01490420270

e-bost: info@cerrigydrudion.org.uk

Village Centre

Church

War Memorial